Addysg Grefyddol

Yn Ysgol Llanllwni rydym yn ceisio darparu amgylchedd ddysgu lle mae pob plentyn yn cael ei annog i ddatblygu ei bersonoliaeth yn ôl egwyddorion Cristnogol ac i ddatblygu synnwyr o werthoedd moesol ac ymwybyddiaeth o ochr ysbrydol bywyd mewn amgylchedd Cristnogol.

Yn ogystal, rydym yn annog plant i ddatblygu eu hymwybyddiaeth o wahanol grefyddau, trwy eu dysgu am ddathliadau a thraddodiadau.