TGCh yn Ysgol Llanllwni
Ein nod yw grymuso ein cymuned ysgol i ddod yn ddysgwyr ‘gydol oes’ sydd wedi’u cyfarparu i gwrdd â thechnoleg sy’n datblygu’n gysgon gyda hyder, brwdfrydedd a’r sgiliau a fydd yn eu paratoi’n ddiogel ar gyfer y dyfodol yn fyd sy’n newid yn gyson.
Yn Ysgol Llanllwni rydyn ni’n deall bod gennym ni cyfrifoldeb ar gyfer dysgu ein disgyblion am e-ddiogelwch. Mae ein disgyblion yn aml yn cymryd rhan mewn gwersi lle mae materion e-ddiogelwch yn cael eu hamlygu, fel y gallant wneud penderfyniadau annibynnol am gadw eu hunain yn ddiogel tra yn y byd digidol. Bydd Swyddog Cyswllt yr Heddlu hefyd yn ymweld â’r ysgol i gefnogi’r dysgu yn yr ystafell ddosbarth, ac i sicrhau bod y negeseuon diogelu priodol yn cael eu rhannu gyda’r plant a’r staff.
Dyma rheolau SMART Ysgol Llanllwni:
Saff:
Cadwch yn saff a byddwch yn ofalus!
Meddwl:
Peidiwch â chwrdd ag unrhywun!
Aros:
Peidiwch â derbyn negeseuon neu unrhyw lun, ffeil ayyb gan rhywun ar-lein. Mae’n gallu cynnwys feirws.
Rhaid Cofio:
Dydyn ni ddim yn gallu ymddiried ym mhawb ar-lein.
Teimlo’n annifyr:
Os yw rhywun neu rywbeth yn eich gwneud chi’n drist, dywedwch wrth oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo.
DAN DIGIDOL
Ar ddiwrnod diogelwch ar y we, roedd disgyblion bl 5 a 6 wedi cymryd rhan mewn prosiect gan glwstwr Llambed, sef i greu fideo am e-ddiogelwch.