Siarter Iaith

RYDYM NI FEL YSGOL YN GWEITHREDU SIARTER IAITH SIR GAR.

Nod syml y Siarter Iaith yw arwain at gynnydd yn nefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg. 

Mae’r Siarter Iaith yn gofyn am gyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol er mwyn sicrhau perchnogaeth llawn ohoni. 

CRIW CYMRAEG YSGOL LLANLLWNI 2018 – 2019

Dyma dargedau’r Criw Cymraeg er mwyn gweithio tuag at y wobr arian: 

  • Sefydlu ethos Gymraeg gweladwy.
  • Cydnabod manteision dysgu Cymraeg
  • Defnyddio Cymraeg bob dydd yn y dosbarth.
  • Defnyddio Cymraeg bob dydd tu allan i’r dosbarth.
  • Gwasanaethau Cymraeg
  • Apiau a gwefannau i hyrwyddo a chefnogi’r dysgu
  • Gweithgareddau allgyrsiol
  • Datblygu darllen
  • Cymraeg ar draws y Cwricwlwm.
  • Agwedd bositif

GWOBR EFYDD SIARTER IAITH SIR GAR 

 Gweledigaeth yr Ysgol

  • Ein nod yn syml felly yw bydd pob disgybl yn siarad Cymraeg yn naturiol ar yr iard ac yn y dosbarth fel cyfrwng cyfathrebu, dysgu, chwarae a chymdeithasu yn yr ysgol.
  • Gweledigaeth Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanllwni yw y byd pob plentyn yn siarad Cymraeg graenus ym mhob agwedd o’i fywyd ac y byddant yn ymfalchio yn iaith, diwylliant a thraddodiadau Cymreig. 

WYTHNOS CYMRU CŴL

 Cawson ni bore coffi llwyddiannus tu hwnt er mwyn lansio Siarter Iaith Ysgol Llanllwni. Yn ystod y bore buodd y plant yn perfformio amrywiaeth o eitemau.

Marc Griffiths Cymru Fm

Ar y 7fed o Dachwedd daeth Marc Griffiths i’m hysgol er mwyn cynnal gweithdy Radio Cymru FM. Roedd yn ddiwrnod hwylus dros ben! Cafodd y plant gyfleoedd i gynllunio, creu a pherfformio rhaglen eu hunan. Cafodd y rhaglen yma ei chwarae ar ‘Cymru FM.’

Sali Mali yn ymweld â Ysgol Llanllwni 

Daeth Sali Mali i ymweld â phlant Ysgol Llanllwni, yn ogystal daeth aelod o Fenter Iaith i Ysgol Llanllwni er mwyn darllen stori am Sali Mali i ddisgyblion CS. 

Coleg Aberystwyth 

Dyma ddisgyblion CA2 yn cyd-weithio a myfyriwr Coleg Aberystwyth er mwyn creu ‘Mascot’ Siarter Iaith.

Gemau’r Buarth 

Buodd Gwyneth o Fenter Iaith allan yn yr ysgol yn dysgu’r plant a staff am gemau’r buarth. Cafodd y plant llawer o hwyl a sbri wrth ddysgu sut i chwarae’r gemau. Mae staff a’r Criw Cymraeg yn arwain gemau buarth ar yr iard yn ystod amser chwarae.