Llysgenhadon Efydd

Dyma Lysgenhadon Efydd Ysgol Llanllwni – 2018-2019

Cyfrifoldeb Llysgenhadon Efydd:

  • Gweithio gyda’r athrawon i drefnu digwyddiadau ar gyfer yr ysgol
  • Arwain a threfnu gweithgareddau ar y buarth chwarae ar gyfer Blynyddoedd 1-6
  • Dod yn ohebwyr ‘chwaraeon ysgol’ gan dynnu sylw at y gwaith da maent yn ei wneud
  • Hybu chwaraeon yn yr ysgol drwy gylchlythyrau a ffilmiau
  • Cefnogi arweinwyr hŷn i gyflwyno sesiynau mewn ysgolion a chymunedau       
  • Cyflwyno canlyniadau’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol i weddill yr ysgol.

Cynhaliwyd y gweithgareddau yn ystod amser cinio ar Ddydd Llun a Dydd Gwener. Ffocws y gweithgareddau yw annog disgyblion i gael hwyl wrth wneud ymarfer corff.