Cyngor Ysgol

Mae’r Cyngor Ysgol yn chwarae rôl allweddol yn Ysgol Llanllwni. Mae’r Cyngor Ysgol yn cynrychioli llais ein disgyblion. Mae’n nhw’n codi syniadau newydd ac yn sicrhau hapusrwydd holl ddisgyblion ein hysgol. 

Dros y flwyddyn diwethaf mae’r Cyngor Ysgol wedi cyfrannu at newidiadau mawr yn yr ysgol gan cynnwys:

Cynnal arolwg o’r amgylchedd dysgu. Arweiniodd hyn at Lywodraethwyr yr Ysgol i ofyn am gymorth ariannol gan y CRhA / STATKRAFT i ymgymryd â gwelliannau ysgol. O ganlyniad uniongyrchol i waith y Cyngor Ysgol mae’r toiledau, yr ystafelloedd dosbarth a’r ardaloedd awyr agored wedi’u gwella’n sylweddol.

Cynnal arolwg gwisg ysgol i benderfynu faint o ddisgyblion oedd yn gwisgo’r wisg ysgol gywir. O ganlyniad i’r ymarfer hwn, cyfrannodd y Cyngor Ysgol yn uniongyrchol at y polisi gwisg ysgol newydd sydd bellach yn niwtral o ran rhyw.

Yn ddiweddar mae’r cyngor ysgol wedi cynhyrchu Polisi Gwrth-fwlio sy’n gyfeillgar i’r Disgyblion.

Cliciwch ar y ddolen isod i weld canlyniadau’r holiadur cyngor ysgol ddiweddaraf

https://forms.office.com/Pages/AnalysisPage.aspx?id=Ug4_TzS3ZEGUCRtgHRR5k5Z1fxEfW0pMpsOKmotmX8NUNFZNTFFQWkVNTlZaVTVURURPUjA3NllHSi4u&AnalyzerToken=fhpR5sr6qtGTTo4AViQfRqpAkHITpQYl

Aelodau’r Cyngor Ysgol 2019-20: