Cyngor ECO ac Iach

DYMA CÔD ECO YSGOL LLANLLWNI. 

  • Cerdded i’r ysgol pan mae’n bosib.
  • Peidio gwastraffu dŵr – troi’r tapiau i ffwrdd, llenwi hanner botel dŵr ar y tro. 
  • Ail-gylchu trwy roi sbwriel yn y binau cywir. 
  • Peidio gwastraffu egni – troi’r goleuadau bant a chau’r dryau a ffenestri.
  • Lleihau gwastraff trwy ail-ddefnyddio papur. 
  • Gweithio fel tîm i ofalu am ein hamgylchfyd. 
  • Gwneud rhieni a’r gymuned yn fwy ymwybodol o’r amgylchfyd trwy weithredu’r Ysgolion Eco.
  • Ail-gylchu batris.
  • Cadw’r gymuned yn daclus trwy gasglu sbwriel yn y gymuned.

DYMA RAP YSGOL ECO – YSGOL LLANLLWNI

Mae Ysgol Llanllwni yn hoffi ail-gylchu.

Papur, plastig, metel, sbwriel sy’n cael taflu.

Rhaid bwyta’n iach, plant mawr a bach.

Ffrwythau a dŵr, sy’n dda yn siŵr.

Mae’r iard yn lân, dyna yw ein cân,

Edrychwn ni ar ôl y byd i gyd o hyd. 

Helpwn ni’r amgylchedd, popeth wnawn o hyd.

Mae ein hysgol ni’n Llanllwni’n y gorau yn y byd! 

TREFNODD CYNGOR ECO DIWRNOD CASGLU SBWRIEL

DIWRNOD GWYLIO ADAR 

Ar Ddydd Gwener 15fed o Chwefror buom yn cymryd rhan mewn Diwrnod Gwylio Adar y RSPB. 

CYNGOR IACH

Mae Ysgol Llanllwni yn rhan o Gynllun Ysgolion Iach Sir Gaerfyrddin.

Mae Cynllun Ysgolion Iach wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus ers mis Medi 2001. Mae 127 o ysgolion ar y Cynllun Ysgolion Iach yn Sir Gaerfyrddin nawr. Mae’r Prosiect yn rhan o gynllun Sefydliad Iechyd y Byd ‘Rhwydwaith Ewropeaidd o Ysgolion Hybu Iechyd’ y mae Cymru bellach yn rhan. 

Da iawn i’r cyngor iach am dderbyn y 5ed deilen. 

 Y 7 TESTYN IECHYD 

  • Bwyd a Ffitrwydd 
  • Iechyd a Lles Meddyliol ac Emosiynol 
  • Datblygu Personol a Chydberthynas
  • Defnyddio a Chamddefnyddio Sylweddau 
  • Amgylchedd
  • Diogelwch
  • Hylendid 

NYRS FFION – BWYTA’N IACH

Ar Ddydd Gwener yr 8fed o Chwefror, daeth nyrs Ffion i’r ysgol i ddysgu’r plant am gynnwys siwgr a bwyta’n iach.