Clybiau

Clwb Brecwast – yn ddyddiol rhwng 8yb ac 8.45yb.

Mae’r ysgol yn rhedeg Clwb Brecwast yn ddyddiol sy’n rhad ac am ddim i’r holl ddisgyblion. Mae’r Clwb Brecwast ar agor o 8.00yb-8.45yb ac fe’i cynhelir yn neuadd yr ysgol. Cynigir amrywiaeth o fwydydd a diodydd brecwast iach i’r disgyblion, gan gryfhau’r Statws Ysgol Iach Ysgol Llanybydder. Dylai rhieni gofrestru eu plentyn i’r Clwb Brecwast. Mae ffurflenni cofrestru ar gael gan staff Clwb Brecwast. Rhaid i’r disgyblion gyrraedd yr ysgol cyn 8.35am i ganiatáu digon o amser i fwyta brecwast.

Dydd Llun (12:30 – 13:00) 

Sesiwn Addysg Gorfforol efo’r Llysgenhadon Efydd.

Dydd Llun (15:15 – 16:15) 

Clwb Urdd / Campiau’r Ddraig 

Mae Ysgol Llanllwni yn cynnal clwb yr Urdd ar gyfer aelodau Urdd yr ysgol. Mae’r disgyblion yn derbyn cyfleodd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y clwb megis: coginio, chwaraeon, gemau parasiwt, bingo, cwis a chelf a chrefft. 

Dydd Mercher (12:30 – 13:00) 

Sesiwn Gemau Buarth efo’r Criw Cymraeg.

Dydd Gwener (12;30 – 13:00) 

Sesiwn Addysg Gorfforol efo’r Llysgenhadon Efydd.